“Nawr tu cefn i lygaid a chyfrinachau'r breuddwydwyr ar y stryd a suwyd i gysgu ger y lli…”

Croeso i Dan y Wenallt – dehongliad breuddwydiol ac erotig o destun eiconig Dylan Thomas, 'Under Milk Wood'. Mae’r addasiad sinematig Cymraeg hwn, sy’n sicr o synnu a chyffroi ar yr un gwynt, yn dod â’r cyfarwyddwr Kevin Allen a’r actor Rhys Ifans yn ôl at ei gilydd, dros bymtheng mlynedd ers rhyddhau eu clasur tanddaearol 'Twin Town'. Mae Ifans yn arwain cast eithriadol o wynebau Cymreig cyfarwydd wrth chwarae rhannau’r Llais Cyntaf a Capten Cat, gyda Charlotte Church yn rhan Poli Gardis.

Dangoswyd Dan y Wenallt gyntaf mewn sinemâu ledled Cymru ym mis Rhagfyr 2014 i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Rhyddheir ei gymar 'Under Milk Wood' yn y DU yn ystod y gwanwyn (2015)

Rhagor o wybodaeth yma

© Hawlfraint Captain Cat Cyf 2014 Cedwir Pob Hawl Ffotograffiaeth gan: Richard Brewis Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol gan: Nocturnal Cloud